Ewch i'r prif gynnwys
Cardiff University logoMewnrwyd staff
Search MenuEnglish language iconEnglish

Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar y Cyd

Mae'r tîm Archwilio Mewnol yn darparu sicrwydd annibynnol i Uwch reolwyr y Brifysgol a'r Cyngor bod prosesau rheoli risgau, llywodraethu a rheolaeth fewnol y sefydliad yn gweithio'n effeithiol.

Mae archwilwyr mewnol yn ymwneud â materion sy'n hollbwysig i oroesiad a ffyniant sefydliad. Yn wahanol i archwilwyr allanol, byddan nhw'n edrych y tu hwnt i risgiau ac adroddiadau ariannol gan ystyried materion ehangach megis enw da'r sefydliad, ei dwf, ei effaith ar yr amgylchedd a lles ei weithwyr.

Mae’r gwasanaeth archwilio mewnol yn gweithio yn ôl Côd Ymarfer Archwilio HEFCW, sy’n rhan o Gôd y Rheoli Ariannol a’r safonau rhyngwladol cydnabyddedig ym maes archwilio proffesiynol.

Mae Archwilio Mewnol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei ddarparu'n bennaf gan dîm mewnol, gyda chymorth darparwr allanol mewn meysydd arbenigol megis archwiliadau TG.

Archwilio mewnol - rhagor o wybodaeth am y broses archwilio mewnol


Helpwch i wella'r dudalen hon

Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant:


Helpwch i wella'r dudalen hon

Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant: